Cardiff Metropolitan University - Cyncoed Campus Background Image
Image of Cardiff Metropolitan University - Cyncoed Campus
English
Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog) - BA (Anrh)
Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog) - BA (Anrh)

Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog) - BA (Anrh)

  • ID:CMU440004
  • Level:3-Year Bachelor's Degree
  • Duration:
  • Intake:

Fees (GBP)

Estimated Total/program:
Apply
60
Accept letter
100
Visa
20
Fly
1

Admission Requirements

Entry Requirements

  • Applicants will preferably have a minimum of five GCSE passes including English Language and Mathematics* at grade C or above / grade 4 or above (for applicants holding newly reformed GCSEs in England) and 32 UCAS Tariff Points from at least 1 A Level (or equivalent).

  • Degree:

  • Five GCSE passes including English Language and Mathematics* at grade C or above (grade 4 or above for applicants holding newly reformed GCSEs in England) , plus 112 points from at least two A levels (or equivalent)  

  • Typical offers may include:

  • 112 points from at least two A levels to include grades CC; Welsh Baccalaureate – Advanced Skills Challenge Certificate considered as the third subject

  • RQF BTEC National Extended Diploma/Cambridge Technical Extended Diploma DMM

  • 112 points from at least two Scottish Advanced Highers to include grades DD. Scottish Highers are also considered, either on their own or in combination with Advanced Highers

  • 112 points from the Irish Leaving Certificate at Highers to include 2 x H2 grades.  Higher level subjects only considered with a minimum grade H4

  • 112 points from the Access to Higher Education Diploma

  • Entry requirements differ from course to course. The University values both work experience and academic qualifications and will consider students from a wide range of academic backgrounds.

  • You may also need to undertake an English qualification before being admitted onto a course.

  • Our team of International Marketing Officers travel all over the world to meet potential students and assist with your queries and application. In some cases, you can be interviewed and be made an offer in person in your own country.

 

​English Requirements

  • Students whose first language is not English will need to provide evidence of fluency to at least an IELTS 6.0 standard or equivalent.

Course Information

Yn y rhaglenni hyn, byddwch yn ennill statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar cymwys (EYPS), gan ennyn profiad ymarferol yn y gwaith wedi'i gyfuno â gwybodaeth ddamcaniaethol a pholisi yn ogystal â'r sgiliau trosglwyddadwy sy'n ofynnol ar gyfer ymarfer Blynyddoedd Cynnar effeithiol, gan gynnwys rheoli lleoliadau Blynyddoedd Cynnar. Datblygwyd y rhaglen mewn ymateb uniongyrchol i newidiadau yn y ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru a'r DU i ddarparu arbenigwyr plentyndod cynnar cymwys sy'n gweithio gyda phlant ifanc a'u teuluoedd. 

Agwedd sylfaenol ar y radd yw'r 700 awr o brofiad ymarferol wedi'i asesu y byddwch chi'n ei gwblhau er mwyn ennill EYPS. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau bloc yn ystod pob blwyddyn o'ch astudiaeth mewn ystod o leoliadau perthnasol fel ystafelloedd dosbarth yn yr adran babanod, meithrinfeydd preifat, canolfannau plant integredig a chyfleusterau gofal dydd. Fel rhan o'ch gradd byddwch hefyd yn treulio amser yn ein darpariaeth Ysgol Goedwig ar y campws, lle byddwch yn gallu ennill profiad uniongyrchol o'r dull deinamig hwn o addysg gynnar. Cewch hefyd gyfle i dreulio amser yn ein hystafell MiniMets a ddatblygwyd i'ch galluogi i brofi arfer rhagorol trwy sesiynau ymarferol.

Trwy ennill gradd sydd ar flaen y gad o ran newidiadau yn y sector, bydd eich cymhwyster yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan ddarpar gyflogwyr yn y maes hwn. Mae'r radd hon hefyd yn darparu sylfeini cadarn ar gyfer ystod o yrfaoedd cysylltiedig fel gwaith cymorth i deuluoedd, iechyd a gofal cymdeithasol a gwaith cymunedol. 

* Mae'r radd ddwyieithog yn canolbwyntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth academaidd ac ymarferol o addysg gynradd mewn cyd-destun dwyieithog. Tra bydd peth o'r rhaglen yn cael ei darparu trwy gyfrwng y Saesneg, mae'r rhan fwyaf o'r cwrs  dwyieithog ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys cefnogaeth tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg a chyfleoedd am leoliadau cyfrwng Cymraeg. Gellir cyflwyno asesiadau yn Saesneg neu yn Gymraeg a gellir teilwra'r cynnwys Cymraeg i weddu i'ch gallu iaith. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i ateb y galw cynyddol am raddedigion sydd â galluoedd a chymwysterau dwyieithog. 

Er mwyn graddio gyda'r wobr ddwyieithog, rhaid i fyfyrwyr gymryd o leiaf 80 credyd ym mhob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn hefyd yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd werth hyd at £3000 dros y tair blynedd.

More Info: Click here

Ymarfer Proffesiynol (1): Datblygu Ymarfer Effeithiol (60 credyd) *

  • Yn ystod y modiwl hwn, cewch eich cyflwyno i ofynion y cymhwyster Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar. Cewch gyfleoedd helaeth yn ymarferol i ddatblygu sgiliau mewn perthynas â chreu amgylcheddau maethlon a chynhwysol sy'n darparu gofal ac addysg o ansawdd uchel. Fe'ch anogir hefyd i fyfyrio ar eich datblygiad eich hun yn eich ymarfer.

Y Plentyn sy'n Datblygu 1 (20 credyd) *

  • Yn ystod y modiwl hwn byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar dwf a datblygiad mewn plant. Bydd agweddau penodol ar ddatblygiad yn ystod plentyndod yn cael eu hystyried gan gynnwys meysydd fel gwybyddiaeth, cof, iaith a datblygiad emosiynol a chymdeithasol.

Y Plentyn sy'n Datblygu 2 (20 credyd) *

  • Yn dilyn ymlaen o Y Plentyn sy'n Datblygu 1, bydd y modiwl hwn yn caniatáu i chi archwilio ystod o safbwyntiau damcaniaethol sy'n gysylltiedig â phlant, datblygiad plant a phlentyndod a sut mae'r rhain yn effeithio ar bolisi ac arfer cyfredol. Cewch hefyd cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth mewn perthynas â nodi polisi ac arfer sy'n ymwneud ag amddiffyn a diogelu plant.

Dysgu Cynnar (20 credyd) *

  • Bydd sesiynau rhyngweithiol yn darparu cyfleoedd i archwilio gwerth a phwysigrwydd chwarae ym mywydau plant, mewn theori ac ymarfer. Byddwch yn astudio sut a pham mae plant yn chwarae, rôl oedolion ac amgylcheddau wrth ddarparu chwarae i blant 0 i 8 oed ac yn ystyried y buddion a'r heriau posibl yn y busnes hwyliog ond difrifol o ddarparu ar gyfer chwarae plant. Byddwch yn archwilio prosesau a safbwyntiau damcaniaethol caffael iaith a datblygiad mathemategol cynnar trwy werthuso ffactorau allweddol sy'n effeithio ar y ddau faes hyn.

Blwyddyn Dau:

Datblygiad Proffesiynol 2: Gweithio gydag eraill (60 credyd) *

  • Yn ystod y modiwl hwn, byddwch yn datblygu ymhellach y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, gan ganolbwyntio ar weithio gyda theuluoedd. Cewch cyfleoedd helaeth yn ymarferol i ddatblygu eich dealltwriaeth o ystod o fframweithiau a ddefnyddir mewn lleoliadau, gan ddatblygu sgiliau wrth greu amgylcheddau cefnogol ar gyfer darparu cyfleoedd chwarae, gofal, addysgol a dysgu. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn prosesau asesu a chynllunio. Bydd cyfleoedd hefyd i archwilio nodweddion entrepreneuriaeth mewn cyd-destun blynyddoedd cynnar a thrwy hynny ganiatáu i chi ddatblygu galluoedd entrepreneuriaeth.

Addysgeg ac Ymarfer yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credyd)

  • Mae'r modiwl Addysgeg ac Ymarfer yn y Blynyddoedd Cynnar yn caniatáu i chi ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r safbwyntiau athronyddol a damcaniaethol sy'n sail i addysgeg ac ymarfer. Cewch gyfle i werthuso ffactorau sy'n effeithio ar brofiadau plant o addysgeg ac ymarfer gan gynnwys rôl yr oedolyn, yr amgylchedd ac ethos ynghyd ag archwilio ac adolygu gweithrediad addysgeg yn ymarferol.

Dod yn Ymchwilydd (20 credyd)

  • Bydd y modiwl hwn yn datblygu eich gallu i ymgysylltu'n feirniadol â ffynonellau academaidd a adolygir gan gymheiriaid. Byddwch yn archwilio materion critigol mewn perthynas ag ymgymryd ag ymchwil gan gynnwys materion moesegol a sicrhau caniatâd neu gydsyniad gwybodus. Bydd ystod o ddulliau methodolegol ac offer ymchwil arloesol yn cael eu gwerthuso i ddarparu profiad wrth weithredu a dadansoddi data.

Arweinyddiaeth a Rheolaeth (20 credyd)

  • Bydd y modiwl hwn yn caniatáu i chi archwilio ystod o sgiliau rheoli allweddol sy'n gysylltiedig â rheoli newid a rheoli prosiectau. Byddwch yn archwilio amrywiol ddulliau a fydd yn caniatáu i chi ddatrys gwrthdaro yn y gweithle tra hefyd yn gwerthuso dulliau i ysgogi ac ymgysylltu â thimau a rheoli perthnasoedd yn hyderus. Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i dystiolaethu eich galluoedd arwain a bydd yn arwain at gymhwyster arweinyddiaeth a rheolaeth gydnabyddedig ILM.

Blwyddyn Tri

Datblygiad Proffesiynol 3: Arweinyddiaeth a Rheolaeth (60 credyd)

  • Yn ystod y modiwl hwn, bydd cyfleoedd ymarferol helaeth yn eich galluogi i gyflawni'r gofynion sy'n gysylltiedig â chymhwyster Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar. Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth a rheolaeth, gan ddarparu cyfleoedd i chi ddatblygu sgiliau wrth arwain a chefnogi gofal ac addysg o ansawdd uchel. Byddwch yn archwilio ystod o bolisïau ac yn ystyried eu heffaith ar ymarfer. Byddwch hefyd yn ystyried egwyddorion gwerthuso gwasanaethau blynyddoedd cynnar yn effeithiol. Bydd y modiwl hwn yn eich arfogi â sgiliau i gefnogi'ch dysgu eich hun a dysgu eraill trwy gymunedau ymarfer. 

Ymarfer Cynhwysol yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credyd)

  • Trwy gydol y modiwl hwn byddwch yn archwilio'n feirniadol egwyddorion ac arferion allweddol cynhwysiant yn y Blynyddoedd Cynnar, gan gynnwys rôl yr Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar. Byddwch yn gwahaniaethu rhwng ac yn dadansoddi'r materion allweddol sy'n gysylltiedig â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Byddwch yn archwilio ac yn gwerthuso cynllunio a threfnu ymyriadau a strategaethau ar gyfer cefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a chynhwysiant.

Prosiect Ymchwil Annibynnol (40 credyd) *

  • Bydd y modiwl hwn yn caniatáu i chi ddatblygu'ch gallu i ymchwilio'n annibynnol mewn maes sydd o ddiddordeb penodol i chi. Yn benodol, byddwch yn gallu dewis, rhesymoli a gweithredu prosiect ysgrifenedig estynedig ac yna cyflwyno'r prosiect yn gydlynol ac yn llawn mewn arddull academaidd. Byddwch yn derbyn arweiniad a chefnogaeth gan eich goruchwyliwr trwy gydol y prosiect.

See moreSee less

Pre Courses

No Course!
See moreSee less

Pathway Courses

No Course!
See moreSee less

Career Opportunity

Career Opportunity

Cynhyrchir sgiliau cyflogadwyedd trwy brofiad mewn lleoliadau yn y gwaith; o fewn yr amgylchedd addysgu a dysgu a thrwy ystod o brosiectau ymgysylltu â'r gymuned. Yn ogystal â'r rhaglen, cewch gyfleoedd i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch profiad ymhellach.  Er enghraifft, rydym yn darparu cyfleoedd ychwanegol i ennill achrediad mewn cymwysterau Ysgol Goedwig a NSPCC o fewn dau fodiwl cwrs. 

Mae ein graddedigion yn cyrchu ystod o swyddi a chyfleoedd cyflogaeth gan gynnwys astudio ymhellach mewn addysg trwy'r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg neu'r Rhaglen Athrawon Graddedig. Mae ein graddedigion wedi dilyn gyrfaoedd mewn ystod o feysydd gan gynnwys rheoli meithrinfa, lles addysgol ac fel swyddogion addysg leol ar gyfer awdurdodau addysg leol.  Mae graddedigion hefyd wedi dilyn gyrfaoedd mewn gwaith cymorth i deuluoedd a gofal cymdeithasol. 

Dilyniant i Hyfforddiant Athrawon TAR:
Rydym yn falch o sicrhau cyfweliad ar gyfer y Cwrs Cynradd TAR ym Met Caerdydd ar gyfer holl raddedigion y rhaglen hon. Mae angen dosbarthiad gradd Anrhydedd o 2:2 neu'n uwch ar hyn o bryd, a rhaid cwrdd â'r gofynion mynediad statudol ar gyfer hyfforddiant yng Nghymru (gan gynnwys graddau B neu gyfwerth mewn TGAU ar gyfer Saesneg a Mathemateg, gradd C ar gyfer Gwyddoniaeth).

Mae cyfleoedd ar gyfer astudio ôl-raddedig pellach ym Met Caerdydd hefyd ar gael trwy'r rhaglen M.A. Addysg a gynigiwn.

Ability to settle

Overseas Student Health Cover

OSHC: 624 ($) GBP per year

Same Courses

Close search