Cardiff Metropolitan University - Cyncoed Campus Background Image
Image of Cardiff Metropolitan University - Cyncoed Campus
Education
Addysg Gynradd (3-11) gyda Statws Athro Cymwysedig - BA (Anrh)
Addysg Gynradd (3-11) gyda Statws Athro Cymwysedig - BA (Anrh)

Addysg Gynradd (3-11) gyda Statws Athro Cymwysedig - BA (Anrh)

  • ID:CMU440007
  • Level:3-Year Bachelor's Degree
  • Duration:
  • Intake:

Fees (GBP)

Estimated Total/program:
Apply
60
Accept letter
100
Visa
20
Fly
1

Admission Requirements

Entry Requirements

  • Applicants will preferably have a minimum of five GCSE passes including English Language and Mathematics* at grade C or above / grade 4 or above (for applicants holding newly reformed GCSEs in England) and 32 UCAS Tariff Points from at least 1 A Level (or equivalent).

  • Degree:

  • Five GCSE passes including English Language and Mathematics* at grade C or above (grade 4 or above for applicants holding newly reformed GCSEs in England) , plus 112 points from at least two A levels (or equivalent)  

  • Typical offers may include:

  • 112 points from at least two A levels to include grades CC; Welsh Baccalaureate – Advanced Skills Challenge Certificate considered as the third subject

  • RQF BTEC National Extended Diploma/Cambridge Technical Extended Diploma DMM

  • 112 points from at least two Scottish Advanced Highers to include grades DD. Scottish Highers are also considered, either on their own or in combination with Advanced Highers

  • 112 points from the Irish Leaving Certificate at Highers to include 2 x H2 grades.  Higher level subjects only considered with a minimum grade H4

  • 112 points from the Access to Higher Education Diploma

  • Entry requirements differ from course to course. The University values both work experience and academic qualifications and will consider students from a wide range of academic backgrounds.

  • You may also need to undertake an English qualification before being admitted onto a course.

  • Our team of International Marketing Officers travel all over the world to meet potential students and assist with your queries and application. In some cases, you can be interviewed and be made an offer in person in your own country.

 

​English Requirements

  • Students whose first language is not English will need to provide evidence of fluency to at least an IELTS 6.0 standard or equivalent.

Course Information

Cwrs israddedig tair blynedd ydy'r BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC (QTS), cwrs sy'n arwain at ddyfarniad gradd anrhydedd a statws athro cymwysedig. 

Nod y cwrs ydy paratoi darpar athrawon ar gyfer bod yn ymarferwyr medrus, hyderus, adfyfyriol gritigol a blaengar sydd wedi ymrwymo i ddysgu proffesiynol gydol oes ac i addysg pobl ifanc. 

Bydd graddedigion yn datblygu'r gwerthoedd a'r ymagweddau a fydd yn eu galluogi i fod yn gyflogadwy iawn ac yn barod i ddelio â galwadau'r ystafell ddosbarth.

More Info: Click here

  • Blwyddyn Un:

  • Meysydd Dysgu a Phrofiad (I) (30 credyd) 

  • Bydd y modiwl hwn yn ystyried y gwahanol ddiffiniadau a safbwyntiau damcaniaethol o lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol a hefyd ystyried pa mor effeithiol ydy gwahanol ddulliau o fynd ati i ddatblygu'r sgiliau hyn o fewn Cwricwlwm newydd Cymru.

  • Dyfodol Llwyddiannus (I) (40 credyd) 

  • Bydd y modiwl hwn yn ystyried gwybodaeth cynnwys pwnc perthnasol a gwybodaeth am gynnwys addysgegol o ran addysgu ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; gwyddoniaeth a thechnoleg; iechyd a llesiant; a'r celfyddydau mynegiannol, celf, cerddoriaeth a dawns yn benodol. Bydd dealltwriaeth ddamcaniaethol o'r modd y mae plant yn datblygu a dysgu a sut i ysgogi, cymell a herio pob dysgwr yn rhan annatod o'r modiwl hwn. 

  • Ystyried Chwarae a Dysgu Cynnar (20 credyd)  

  • Bydd y modiwl hwn yn ystyried materion critigol sy’n gysylltiedig â chwarae, a gwerth a phwysigrwydd chwarae i ddysg plant ac i’w datblygiad cyfannol. Caiff darpar athrawon y cyfle i gwblhau cymhwyster Lefel 2 mewn Cynorthwyo mewn Ysgol Coedwig fel cymhwyster opsiynol ychwanegol (yn amodol ar (ffi) cofrestriad ac asesiad darpar athro Agored Cymru) fel rhan o’r modiwl hwn.

  • Rhagarweiniad i: Datblygiad Plant ac Ymarfer Clinigol (30 credyd)

  • Bydd y modiwl hwn yn ystyried datblygiad plentyn yn cynnwys datblygiad gwybyddol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a ieithyddol. Mae'n cynnwys 15 diwrnod o ymarfer clinigol mewn ysgolion lle ceir cyfleoedd i gynorthwyo ac ymestyn datblygiad cyfannol plentyn a hynny'n seiliedig ar ganfyddiadau arsylwi.
    Blwyddyn Dau:

  • Meysydd Dysgu a Phrofiad (II) (30 credyd) 

  • Bydd y modiwl hwn yn dadansoddi effeithioldeb amrediad o ddulliau a ddefnyddir i ddysgu ac addysgu 'Meysydd Dysgu a Phrofiad' o fewn Cwricwlwm Cymru a gwneud hynny yn gritigol. Caiff darpar athrawon gyfle i wneud cysylltiadau perthnasol, ystyrlon o fewn ac ar draws meysydd y cwricwlwm. 

  • Dyfodol Llwyddiannus (II) (40 credyd) 

  • Bydd y modiwl hwn yn cadarnhau ac ymestyn gwybodaeth am bwnc a chynnwys addysgegol o ran addysgu ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; gwyddoniaeth a thechnoleg. Bydd hefyd yn ystyried gwybodaeth berthnasol am bwnc a gwybodaeth am gynnwys addysgegol o ran addysgu'r dyniaethau. Felly, bydd dealltwriaeth ddamcaniaethol o asesu, gwahaniaethu a diwallu anghenion disgyblion yn rhan annatod o'r modiwl hwn. 

  • Ymchwilio i Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Addysg Gynradd (20 credyd) 

  • Bydd y modiwl hwn yn paratoi darpar athrawon ar gyfer cwblhau astudiaeth annibynnol ym mlwyddyn tri. Bydd y datblygu critigoldeb mewn darllen ac ymchwil gyda'r ffocws ar ddefnyddio ymchwil i ddylanwadu ar unrhyw ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

  • Ymarfer Clinigol 1 (30 credyd)

  • Mae'r modiwl hwn yn digwydd yn bennaf mewn ysgolion lle caiff darpar athrawon y cyfle i bontio'r gagendor rhwng y theori a'r ymarferol ac i ddefnyddio'u sgiliau addysgu yn ddiogel yn y gweithle. Bydd darpar athrawon yn arddangos eu hegin sgiliau a'u hyder i arsylwi, addysgu ac asesu o fewn o leiaf un cyfnod oed a gwneud cynnydd sylweddol tuag at gwrdd â safonau proffesiynol ar gyfer SAC.
    Blwyddyn Tri:

  • Dulliau Byd-Eang a Blaengar o Fynd ati i Ystyried Addysg  (20 credyd) 

  • Mae'r modiwl hwn yn cynnig cipolwg ar systemau, damcaniaethau a chysyniadau addysgol yn lleol ac ar draws y byd. Bydd yn ystyried gwahanol athroniaethau a diwylliannau o fewn systemau addysgol lleol a rhyngwladol, lleoliadau ac amgylcheddau addysgu. 

  • Ymarfer Proffesiynol a Llesiant (30 credyd) 

  • Gyda'r ffocws ar ddatblygu llesiant ar gyfer darpar yrfa ym maes addysgu, mae'r modiwl hwn yn ystyried y galwadau proffesiynol cyfredol sydd ar ymarferwyr ysgolion cynradd heddiw ac yn ystyried sut gallai athrawon beri newid ac ymateb i'r sefyllfaoedd a'r amgylcheddau y maen nhw'n gweithredu ynddyn nhw. 

  • Prosiect Annibynnol (40 credyd) 

  • Bydd y Modiwl hwn yn galluogi darpar athrawon i gwblhau prosiect ymchwil annibynnol neu brosiect yn seiliedig ar ymchwiliad i wella a mireinio eu hymarfer clinigol. Bydd yr ymchwil yn digwydd ochr yn ochr ac o fewn ymarfer clinigol darpar athrawon fel y gall effeithio a dylanwadu ar ddysgu ac addysgu. Seilir ffocws yr ymchwil ar ddiwallu anghenion dysgwr/grŵp o ddysgwyr gydag anghenion ychwanegol neu â Saesneg fel iaith ychwanegol. 

  • Ymarfer Clinigol 2 (30 credyd)  

  • Mae'r modiwl hwn yn digwydd yn bennaf mewn ysgolion lle caiff darpar athrawon y cyfle i bontio'r gagendor rhwng y theori a'r ymarferol ac i ddefnyddio'u sgiliau addysgu yn ddiogel yn y gweithle. Bydd darpar athrawon yn cael eu rhoi mewn dosbarth sy'n wahanol o ran oed i ddosbarth yn Ymarfer Clinigol 1. Erbyn y diwedd, bydd disgwyl i ddarpar athrawon allu cyflawni lefel berthnasol i ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig(SAC) neu ragori ar y lefel honno. 

See moreSee less

Pre Courses

No Course!
See moreSee less

Pathway Courses

No Course!
See moreSee less

Career Opportunity

Career Opportunity

O gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, argymhellir i'r Cyngor Gweithlu Addysg bod y darpar athro wedi ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) a hynny yn cynnig y cyfleoedd ar gyfer cyflogadwyedd ym maes addysg gynradd. Gall graddedigion gael gwaith mewn ysgolion ar draws Cymru, y DU a thramor.

Lluniwyd y cwrs i gynnig ystod o eang o brofiadau a fydd yn rhoi wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i'n graddedigion i'w paratoi'n dda ar gyfer byd gwaith. Mae Ysgolion Partneriaeth Arweiniol Partneriaeth Caerdydd wedi cael eu henwi fel darparwyr blaengar addysg a datblygiad proffesiynol yng Nghymru ac felly, mae'r cyfle i ddysgu ganddyn nhw ac o fewn eu hamgylcheddau eu hunain yn golygu y dylai'r dilyniant o fod yn ddarpar athro i fod yn Athro Newydd Gymhwyso fod yn ddi-dor.

Ability to settle

Overseas Student Health Cover

OSHC: 624 ($) GBP per year

Same Courses

Close search